Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-21

Teimlo'n isel

Dwi'n teimlo fod popeth yn drech na fi heddiw. Gormod i'w wneud yn fy ngwaith ac wedi addo gormod o bethau i bobol eraill. Dwi'n teimlo fel troi fy nghefn ar bopeth a gwneud beth dwi am ei wneud yn lle beth mae pawb arall am i fi wneud iddyn nhw neu drostyn nhw.

Mae gwirfoddoli i wneud pethau yn weithred gymhleth iawn. Dim ond ichi wirfoddoli yn ddigon anaml mae'n dod â phleser pur; dim ond ichi wirfoddoli mewn gwirionedd mae'n dod â'i deimladau o gyflawniad ac o fod o weth. Ond os ych chi fel fi yn gwirfoddoli yn aml iawn achos eich bod chi'n meddwl taw dyna ddylech chi ei wneud, neu taw dyna beth ych chi'n feddwl mae rhywun arall am ichi wneud, mae'r pleser yn troi yn boen ac yn lle bod o werth yr ych chi'n teimlo eich bod yn cael eich defnyddio. Yn y pendraw rydw i'n cael fy hun yn casáu'r hyn dwi'n ei garu!

A dwi'n gobeithio fod hynny wedi esbonio sut dwi'n teimlo heddiw. Roedd cyfle i fi fynd lawr i Gaerfyrddin gyda chyfaill; ond dwi wedi addo gwneud rhywbeth arall - canfasio dros Simon Thomas – ac felly does dim dianc.

Os ydw i'n onest â fi fy hunan dwi'n gwybod mae'r angen i gael fy ngharu sy'n gyrru'r addo gwyllt i wneud pethau i bobol. Ac er fy mod yn datgan yn ddigon hawdd fy mod yn hapus i fod yn sengl, weithiau byddai cael rhywun i'w garu a derbyn cariad yn ôl ganddo yn emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol yn ffordd o oresgyn y duedd i addo rhoi trwy'r amser i bobol eraill. Ond cyn imi fedru gwneud hynny mae'n rhaid imi gael gwared o'r elfen hunanol ynof fi sydd am wneud yr hyn dwi am ei wneud ar yr union adeg dwi am ei wneud yn yr union ffordd dwi am ei wneud.

Bues i'n trafod hyn ddoe gyda CG. Roedd hi'n sôn am ystyriaethau teuluol wrth benderfynu ar yrfa, &c. Ac wrth gwrs holl natur teulu yw peidio â rhoi'r unigolion yn gyntaf, ond yn hytrach yr uned deuluol. Er mwyn i deulu oroesi rhaid i bawb gredu ynddo - plant, rheini, wrth gwrs, ond hefyd cymdeithas. Mae pawb yn hunanol ar brydiau, ond pan fo aelod o deulu yn hunanol neu pan fo cymdeithas yn hybu hunanoldeb drwy'r amser mae dyfodol yr uned deuluol yn y fantol. Wrth i 'ddyletswydd' ddiflannu fel arfer a chysyniad sy'n cael ei barchu nid yw'n rhyfedd fod cynifer mwy o bobol - gan fy nghynnwys fi fy hun - yn dewis byw yn sengl. A dyna'r cylch seithug yn troi!