Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-23

Noson gyffrous

Cadeiriau a byrddau. MorlanWedi'r holl ddisgwyl fe ddaeth nos Wener â digwyddiad cyffrous iawn, sef y noson gyntaf i'w chynnal yng nghanolfan Morlan. Roedd hi'n fraint i gael bod yn un oedd yn rhan o'r tîm oedd yn gyfrifol am y digwyddiad cyntaf hwn - RAJ, DJP, DML a MD. Gorwelion oedd teitl y noson, sef noson o farddoniaeth a delweddau. Roedd yn bleser gweld y gynulleidfa ar gyfer y noson gyntaf hefyd - yr holl ffyddloniaid sydd wedi cefnogi gweledigaeth Morlan o'r cychwyn. Roedd brwdfrydedd a chyffro PLlJ ac AD yn arbennig o heintus, ond roedd i'w weld yn wynebau ac ymddygiad nifer go lew o'r rhai oedd yn bresennol. Roedd yn fraint i gael rhannu hynny yn arbennig. Fe fydd y lle hyd yn oed yn fwy parod ar gyfer yr agoriad swyddogol yfory! Wedi'r cyfan fynd yn iawn aeth y criw mas i dafarn Scholars, cyn i DML a minnau fynd am adref am ryw 10.30pm a'r lleill ymlaen i'r Cŵps.