Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-24

Angladd Gwynfor

Mae'r holl sôn am angladd Gwynfor Evans wedi gwneud i mi feddwl am fy angladd i unwaith eto. Os ydych chi am gael angladd fel yr ych chi'n ei geisio, yna'r syniad gorau yw gadael i rywun arall wybod beth yw eich penderfyniad. Felly dwi wedi gwneud drafft cyntaf o'r gwasanaeth claddedigaeth y meirw dwi eisiau ei gael. Dwi am ychwanegu rhai pethau eraill at y gwasanaeth, ond dwi ddim yn siwr beth fydd hynny hyd yn hyn.