Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-22

04 Wal - Tŷ HW

HW gogyddNeithiwr, cyn mynd mas i ganfasio cefais y fraint o gael swper yn nghartref Dr HW a HW ei hun oedd y cogydd. Cefais gyri gyda reis fel prif gwrs, a chwedyn treiffl mafon a chwpanaid o de i'w ddilyn. Mae'n bleser ymweld รข Dr HW yn ei gynefin gan fod cymaint o bethau diddorol ganddo i'w dangos. Roedd yn dda hefyd cael sgwrs am y peth hyn a'r peth arall. Fel arfer fe aeth ag un o bosteri ST i'w roi yn ffenest ei loft. Mae'n bwysig inni ddechrau bondio gan fod HW yn un o'r criw fydd yn mynd i Wlad Belg fis nesaf - fi, RO a DML yw'r gweddill. Wedi swper fe gafwyd sgwrs eto cyn i fi ymadael am faes y gad! Byddaf yn gweld Dr HW yn y ffair lyfrau sydd i'w chynnal yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig yn cychwyn am 10 o'r gloch fore Sadwrn 2005-04-23.

Yn garedig iawn caniatodd Dr HW imi wneud rhyw fath o 04 Wal ffotograffig o'i ystafell fyw, a felly mae 'na ragor o ffotografau o'r ymweliad a'r pryd bwyd i'w cael.