Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-10

'Nôl i Aberystwyth

Stryd Bute, CaerdyddYn gynnar ar fore Sadwrn roeddwn i wedi trefnu cael lifft 'nôl i'r canolbarth gan STJ. Roedd ef wedi dod i gwrdd â fi cyn 8.30am ac felly erbyn 9.00am roeddem wedi troi ein cefnau ar y ddinas ac yn mynd ar ein ffordd i dawelwch digyffro de a chanolbarth Powys. Ein prif bwnc trafod oedd Fflandrys, Iseldireg ac wrth gwrs, Caerdydd. Roedd fy ffrind wedi rhoi benthyg o gopi o lyfr John Davies A pocket guide to Cardiff ac roeddwn i wedi cael llawer iawn o bleser o'i ddarllen. Mae e'n dangos pa mor ddiddorol yw hanes y ddinas a sut y datblygodd o fod yn dref fechan i fod yn ddinas fawr bwysig.

Ffordd, Cwm ElanAeth y daith drwy'r canolbarth â ni heibio i Gaffi'r Halt, ger Llanwrthwl. Ac roedd STJ yn bendant ei fod aros yno i gael rhywbeh i'w fwyta. Dim rhyfedd, oherwydd yr oedd yn lle difyr iawn - bwyd da hefyd. Dyma brynu copi o'r Independent a oedd yn cynnwys atodiad arbennig ar The cities of Flanders. Yn lle mynd yn ôl ar y ffordd fawr, yn Rhaeadr Gwy aethpwyd ar y ffordd trwy Gwm Elan sy'n arwain at Gwm Ystwyth ac yn ôl i Aberystwyth.

Wedi cyrraed 'nôl, y peth cyntaf y cefais wneud oedd galw i weld ACD sydd wedi dod adref o'r ysbyty. Yn y gwely yr oedd e, yn edrych yn wan iawn, ond roedd ei groeso yn un cynnes iawn fel arfer. Ac fe wnaeth fy atgoffa fy mod i bregethu brynhawn Sul yn Saron, Llanbadarn Fawr. Bant â fi wedyn i orffen fy mhregeth ac i wneud trefn ar y pethau yr oeddwn i wedi dod 'nôl gyda fi o Gaerdydd.

Ceir mwy o luniau o ddydd Sadwrn yng Nghaerydd.