Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-10

Dydd Gwener yn y ddinas - gwaith

Adeilad y Dyniaethau, Prifysgol CaerdyddDydd Gwener roedd hi'n bryd imi wneud ychydig waith. Roedd yn rhaid ffeindio fy ffordd i Adeilad y Dyniaethau ym Mhrifysgol Caerdydd er mwyn dod o hyd i Ysgol y Gymraeg. Roeddwn i'n mynd yno gyda'r gwaith, ac er fy mod yn ceisio osgoi gwaith mae'n werth sôn ychydig am y fforwm Trydanu'r testun. Cafwyd papurau am bob math o bynciau diddorol.
Roedd nifer o bobol roeddwn i yn eu hadnabod yno. Aeth popeth yn iawn. Wedyn dyma gerdded 'nôl i ganol y ddinas yng nghwmni MNJ - chael cyfle i edrych o gwmpas y ganolfan ddinesig. Bues i am dipyn yn edrych ar y gofeb a godwyd yn 1909 i goffáu'r Cymry a gollodd eu bywydau adeg rhyfel y Boer, 1899-1902.

Mae mwy o luniau o ddydd Gwener i'w cael.