
Mae'r rhyddid o beidio siafio dros y gwyliau yn dechrau fy nhemtio i gadw barf unwaith eto. Dwi'n dal i deimlo eithaf porcyn hebddo, er ei fod wedi mynd ers tair blynedd bellach. Ond mae rhywbeth cysurlon mewn barf; pan fo pethau'n mynd i'r pen fe allwch wastad gafael yn eich barf am gynhaliaeth. Dwi'n credu fy mod i wedi penderfynu beth fydd yn digwydd yn barod.