
Neithiwr fe fues i mewn noson a drefnwyd gan
Morlan. Teitl y noson oedd 'Pwy biau'r newyddion?' ac roedd dau yn arwain y drafodaeth, sef Dylan Iorwerth o'r cylchfrawn
Golwg a'r Parchg Ddr Chris Sunderland o'r mudiad
Agora. Roedd hi'n noson lled lwyddiannus – roedd nifer fawr wedi dod ynghyd, ond prin oedd y rhai oedd yn barod i gyfrannu i'r drafodaeth. Roedd hynny'n eithaf eironig gan taw cenhadaeth fawr Chris Sunderland oedd annog pobol i drafod ac i ddweud eu storïau eu hunain ac fe wnaeth ei orau i sicrhau hynny. Efallai o barhau i drafod ac adrodd ein straeon y daw pobol yn fwy hydreus i wneud hynny. Annogaeth arall Chris Sunderland oedd i ni ein hunain ddechrau ac annog trafodaethau. Wrth gwrs, doedd gan bawb ddim cymaint â hynny o ddiddoreb mewn trafod y newyddion - roedd yn well ganddynt hwy ei ddarllen, fel y tystia'r darlun.

Roedd Chris (fe welwch gefn ei ben yn y darlun ar y chwith) yn ddyn â chefndir diddorol. Bu'n fiogemegydd ymchwil ac yn ficer dinesig. Mae ganddo raddau ymchwil mewn gwyddoniaeth a diwinyddiaeth. Mae'n benderfynol o wneud pethau sy'n berthnasol ac yn ddiddorol. Ei gariad mawr yw adrodd straeon a'r potensial sydd yn hynny i greu perthynas â phobol eraill yn ein cymdeithas fodern. Does dim angen imi ddweud am Dylan Iorwerth dwi'n siŵr.
Nodau Agora ei hun yw democratiaeth fyw, bywyd corfforaethol wedi'i adnewyddu, addysg wedi'i drawsnewid, a chreu lle i darfod hyni gyd yng ngyd-destun crêd, gwerthoedd ac ymrwymiadau dyfnaf pobol.