
Gwaith diddiolch pur yw canfasio. Nid fod neb yn anfoesgar (er mae hynny'n digwydd ambell waith, ond yn anaml iawn iawn) ond mae dyn yn ymwybodol fod y rhan fwyaf ddim am eich gweld chi yn curo ar y drws ac yn gofyn beth yw eu barn wleidyddol. Mae rhai yn croesawu'r cyfle i drafod... a thrafod... a thrafod. Mae eraill yn dannod ichi nad yw nhw wedi'ch gweld ers yr etholiad cyffredinol diwethaf – wrth gwrs dy hynny ddim yn wir gan fy mod i wedi bod o gwmpas yn canfasio dros fy hun adeg yr etholiadau i'r cyngor tref llynedd a'r flwyddyn cynt ar gyfer etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol. Weithiau mae'n demtasiwn i ddweud hyn wrth bobol, ond fyddai nhw ddim yn credu! Felly jyst nodi'r pen a chario ymlaen yw'r polisi gorau.

Ac eto i gyd dyma'r cyfle pennaf sydd gan bobol i siarad gyda'r rhai sy'n rhan o'r broses wleidyddol ac am hynny mae'n beth da. Ond y drwg yw nad yw'r rhan fwyaf o bobol am fod yn rhan o broses wleidyddol bellach. Fel y mae pobol wedi encilio fwy fwy i'w tai, felly mae trafod gwleidyddiaeth wedi mynd yn rhwybeth sy'n digwydd ond ar y cyfryngau, ac nid rhwng pobol a'i gilydd. Mae fel petai trafod cred, gwerthoedd ac ymrywmiadau yn beth nad yw'n iawn i'w wneud yn gyhoeddus - rhywbeth preifat i'w gadw yn breifat yw pethau felly. Yr oedd hyn yn un o'r pethau oedd yn cael eu trafod yn y cyfarfod "Pwy sy biau'r newyddion?" yr es iddo nos Fawrth. Dwi'n dueddol o gytuno gyda'r siaradwyr yno fod yn rhaid inni adennill y gallu i drafod pethau fel hyn yn gyhoeddus unwaith eto. Ond fe fyddwn i'n dweud hynny!