Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-11

Llanbadarn Fawr unwaith eto

Ffenest siop UltracomidaDydd Sul arferol - gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn Eglwys S. Mair am 10.00. Coffi ym mwyty Tŵr y Cloc am 11.30am ac yna cinio gyda chyfeillion am 12.30pm. Mae sôn fod y lle wedi'i werthu bellach i Richard Lloyd Gwallt ac fe fydd y lle'n troi yn salon gwallt moethus ac egsgliwsif. Y cwestiwn mawr wedyn yw beth fydd yn digwydd i ginio dydd Sul. Dwi'n gwyro rhwng y ddau eithaf o barhau neu o roi'r gorau i'r drefn sydd wedi'i mabwysiadu ers blynyddoedd bellach. Dwi'n methu'n deg meddwl am le fyddai'n debyg i Dŵr y Cloc o ran beth fyddai'n ei gynnig. Fel arfer bydd rhywle sy'n gwneud cinio dydd Sul ond yn cynnig cig rhost gyda llysiau a grefi traddodiadol. Dwi ddim am orfod cymryd hynny bob Sul. Cawn weld beth fydd yn digwydd.

Capel Saron, Llanbadarn FawrWedi cinio cefais lifft gan IBJ allan i Lanbadarn Fawr i bregethu yng nghapel Saron. A hithau'n Ail Sul wedi'r Pasg y thema ar gyfer y Sul yw gofal Duw fel gofal bugail dros ei ddefaid, a dyna oedd testun fy mhregeth hefyd. Wedi pregethu dyma alw heibio i Lety Parc am baned cyn mynd 'nôl i'r dref.

Wedi cyrraedd y dref roedd gen i gyfarfod Plaid Cymru er mwyn dechrau rhoi trefn ar ganfasio'r dref ar gyfer yr etholiad cyffredinol. A chwedyn yn ôl i Eglwys S. Mair i wasanaeth yr hwyrol weddi.

Gyda llaw, fe dynnais i lun o'r picls yn ffenest Ultracomida jyst achos eu bod nhw'n edrych yn flasus. Fe wnes i dynnu llun o'r ham, Jamón Serrano, hefyd, ond dyw'r llun ddim cystal.