Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-03

Marw'r Pab Ioan Paul II

JohnPaull2. Ffotograffydd: Paul McCarthyDaeth RO draw nos Sadwrn i gael swper. Pryd syml o basta a saws, ac yna pwdin siocled. Fel arfer roedd gan RO sgwrs ddifyr a digon i'w ddweud. Weithiau dwi'n teimlo nad oes gen ddigon i'w ddweud, felly mae'n fantais i gael pobol fel RO yn gyfeillion. Wedi swper eistedd o flaen y teledu am ychydig a chael fod y Pab Ioan Paul II (neu Ioan Pawl fel mae pawb yn mynnu dweud a sillafu yn Gymraeg am ryw reswm) wedi marw a'r rhaglenni teyrnged yn cael eu darlledu yn barod, gan gynnwys un Gymraeg. Duw a drugarhao wrtho!

Daw cyfle eto i sôn mwy am gyfraniad Ioan Paul II. Ond dwi wedi cael llond bola o sut mae'r cyfryngau wedi bod yn delio gyda'r peth. Popeth yn iawn iddyn nhw nodi'r ffaith fod y dyn wedi marw, ond unwaith eto dyma'r cyfryngau yn mynd dros ben llestri yn eu dull o gyflwyno. Maent wedi troi'r Pab yn gymaint o seleb â Madonna neu Michael Jackson. Efallai fod ychydig o fai ar y Pab ei hun am geisio creu delwedd y seleb iddo'i hun ar brydiau. Ond nid seleb oedd e, ond arweinydd Cristnogol cryf a llwyddiannus iawn ar lawer cyfrif. Ond mae'n edrych yn debyg fod y cyfryngau am geisio ystumio y cofio a'r claddu fel ddigwyddodd yn achos Diana Tywysoges Cymru. A'r un cyfryngau yn unio fydd yn ei feirniadu'n hallt am fod yn rhy fel hyn neu ddim yn ddigon fel arall. Maen nhw yn ei drin ef fel maen nhw'n trin pawb arall - gwasgu pob diferyn o'r hyn maen nhw ei angen allan o sefyllfa neu unigolyn, ac wedyn eu taflu o'r neilltu cyn mynd ymlaen i rywbeth arall newydd a chyffrous. A dyna fydd yn digwydd i'w olynydd eto.

Mae 'na ryw sôn fod hyn hefyd yn mynd i olygu fod Tony Blair yn mynd i ohirio galw etholiad cyffredinol am ddiwrnod neu ddau allan o barch.