Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-03

Cyfarfod cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Un dyn bach yng Nghyfarfod Cyffredinol, Cymdeithas yr Iaith GymraegAeth cyfarfod Cylch yr Iaith ymlaen ychydig yn fwy na'r disgwyl ac wrth ddod o'r cyfarfod pwy welais i ond DJP. Roedd hi'n amser cinio a bant a DJP a finnau i chwilio am rywbeth i'w fwyta yng Nghaffi Morgan. Popeth yn iawn, ond bod yr amser wedi hedfan nes imi gael fy hun yn ôl yn yr Hen Goleg a phopeth drosodd. Etholwyd SC yn gadeirydd ac mae'n wynbeu achos llys am ymgyrchu yn erbyn Radio Sir Gar (chwiliwch am Gymraeg ar y wefan!). Ond fel y dywedais roeddwn i'n rhy hwyr i glywed hyn i gyd. Ond fe gefais gyfle i gwrdd â'r gŵr bonheddig ar y dde yn gwisgo ei gardigan wych ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol - H yw ei enw, mab BG a AT. Cyfle hefyd i weld un neu ddau bobol eraill nad ydw i wedi cael gair gyda nhw ers tipyn.

Wel dyna wythnos o gyfarfodydd drosodd - Paratoi ar gyfer cyfarfod Dai Lloyd Evans (nos Fawrth), Ymchwiliad cyhoeddus (bore Iau), cyfarfod gyda Dai Lloyd Evans (bore Gwener), cyfarfod gyda RhE yn swyddfa Plaid Cymru (prynhawn Gwener), cyfarfod Plaid Cymru (nos Wener), Cylch yr Iaith (bore Sadwrn), Cymdeithas yr Iaith (prynhawn Sadwrn). Ymgyrchu neu byw? Mae'n rhaid fod 'na wahaniaeth!