
Roeddwn i am alw i weld CJ a'r plant yn nhŷ NT cyn mynd i arwain y gwasanaeth Gosber yn Eglwys Llandbadarn Fawr am 5pm. Aeth popeth yn iawn yn Llanbadarn. Doedd y lle ddim yn llawn, ac fe'i gwelais yn eironig iawn fod miloedd ar filoedd o bobol am fynd i weld y Pab yn farw na'r dwrnaid ffydlon ddaeth i'n gweld i! Dyna sut mae pethau mae'n siŵr yr ochor hon i baradwys hyd yn oed yn yr eglwys - mae rhai bwysig ac mae eraill sydd ddim – er taw dyma'r gymdeithas newydd sydd i fod yn gychwyn ar y deyrnas. Yr unig gysur sydd gen i yw pan pan ddaw'r amser i fod ym mhresenoldeb Duw am byth nid edrych ar pa mor bwysig yw pawb o'n cwmpas fyddwn ni, ond yn canolbwyntio ar addoli'r Oen.