
Dwi'n dal i boeni am Gorwelion heno, am agor y ffair lyfau 'fory, am bregethu yng Nghapel Bangor ddydd Sul, am sicrhau fod y 'llyfr gweddi' yn barod ar gyfer Morlan ddydd Llun, a fod y trefniadau ar gyfer mynd i Efrog yn eu lle erbyn ddydd Mawrth...
Ond dwi yn teimlo'n well. Dwi'n teimlo'n well achos fy mod wedi gorffen y canfasio. Dwi'n teimlo'n well am fod cymaint wedi dweud eu bod nhw yn fy ngharu ac wedi dangos consyrn oddi ar sylwadau ddoe. Dywedodd rhai ifi fod yn rhy agored, ond dywedodd eraill eu bod nhw'n deall yn iawn sut roeddwn i'n teimlo.