Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-22

Canfasio Felin-y-môr

Tŷ, Felin-y-môr, Aberystwyth"Mae'r Rhyddfrydwyr yn herio Plaid Cymru yng Ngheredigion" oedd un o'r sylwadau ar y newyddion y bore 'ma. Wel os ydyn nhw dyw nhw ddim mas ar y strydoedd yn ymgyrchu. Fi oedd y cyntaf a'r unig un i droedio erwau gwyn Felin-y-môr yn ôl pawb wnes i eu cyfarfod. Ac mae'n siŵr taw fi oedd yr unig un oedd yn fodlon dringo yr hyn oedd yn ymddangos fel Qomolangma er mwyn ennill un bleidlais. Roedd un tŷ yn benodol yn ymddangos imi fel petai'r pensaer wedi penderfynu taw'r atic ddylai fod yn fynedfa naturiol iddo. Dringo a dringo a dringo. Roeddwn i'n teimlo fy mod yn cyrraedd y fan lle'r roedd yr awyr mor deanu lle roedd yn rhaid cael ocsigen er mwyn drigo'n uwch. Diolch byth fod y preswylydd yn mynd i bleidleisio i Blaid Cymru ar ôl yr ymdrech honno! A'r golygfeydd gwych wedi cyrraedd y top - dim rhyfedd fod pobol yn fodlon gwario ffortiwn am dŷ fan hyn.