Ar ôl y parti draw â fi i ardal yr Aes i weld beth oedd i'w weld yno. Ers agor Canolfan y Mileniwm, mae fel petai pawb wedi anghofio am Neuadd Dewi Sant. Wel, mae'r neuadd yn dal i fod yno ac yn croesawu ymwelwyr. Mae hynny'n wahanol iawn i siop David Morgan sydd wedi cau erbyn hyn.
Galw wedyn yn Waterstones, ond heb ddod o hyd i ddim byd gwefreiddiol ar y silffordd. Mae'n ofnadwy fel mae pob siop lyfrau yn mynd yn debyg i bob siop lyfrau arall, ac fel pob dinas a thref. Mae'n rhaid i'r pwysedd diatal tuag at unffurfiaeth ddod i ben rhywbryd.
Mae'n amlwg fod pethau'n wahanol iawn yn yr oes o'r blaen. Bryd hynny roedd bod yn wahanol, yn unigryw, yn cael ei gyfrif yn rhinwedd. Adeiladawyd adeilad rhyfeddol i fod yn gartref i Lyfrgell Dinas Caerdydd yn yr Aes. Ac ar dalcen yr adeilad y chwedl "Nid bydd ddoeth na ddarlleno".
Mae'r adeilad yn un hardd iawn ac yn sefyll yn dystiolaeth i bwysigrwydd llyfrgelloedd yn y gorffennol. O gwmpas yr Llyfrgell y mae pob math o bethau diddorol fel bwyty bach yr Aes ac Eglwys S. Ioan Fedyddiwr - eglwys plwyf Caerdydd. Yna ymlaen i Heol Eglwys Fair a Chastell Caerdydd, cyn troi yn ôl am Heol y Frenhines i weld beth oedd yn digwydd yno unwaith eto. Erbyn hyn roedd y traed yn dost unwaith eto ac roedd hi'n bryd imi fynd yn ôl i'r llety. 'Nôl ar y trân bach fel arfer a chyrraedd yno am rhyw 9 o'r gloch - roedd y siopau'n agor yn hwyr yn y ddinas ar nos Iau.
Mae mwy o luniau ar gael o fy nydd Iau i yng Nghaerdydd.
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.