Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-10

Parti yng Nghaerdydd

Stryd Bute, CaerdyddMewn dinas mae'n hawdd ceredded am filltiroedd heb sylweddoli eich bod wedi gwneud hynny. Yr unig dro yr ych chi'n sylwi yw wrth gyrraed 'nôl i'r llety gyda'r nos. Fel 'na oedd fy mhrofiad i yng Nghaerdydd ddydd Mercher. Erbyn nos Fercher roedd fy nhraed yn dost! Cysgais yn dawel trwy'r nos tan y bore 'trannoeth. Fore Iau roedd dal i fod gwaith gen i i'w wneud ar y cyflwyniad ar gyfer dydd Gwener, felly rhaid oedd treulio peth o'r bore ar hwnnw. Ond erbyn rhyw unarddeg o'r gloch roedd yn rhaid meddwl am fynd mewn i'r ddinas unwaith eto - i barti y tro hwn i ffarwelio â swyddog undeb amser-llawn cyntaf Prospect yng Nghymru, sef LJ.

Parti ffarwél Liz JenkinsRoedd y parti i'w gynnal yng nghaffé Capsule yn Heol Siarl. Roedd i ddechrau am 12.00 a pharhau tan 4. Dwi'n hoffi siampaen, a diolch byth am hynny achos roedd yn llifo yno drwy gydol y parti. Dwi hefyd yn mwynhau olifau a thomatos wedi'u sychu yn yr haul. Roedd yn wledd. Roedd nifer dda wedi troi i mewn - swyddogion llawn-amser Prospect a rhai cynrychiolwyr lleyg fel finnau, swyddogion llawn-amser PCS, ysgrifennydd cyffredinol TUC Cymru, ac un neu ddau arall. Y gwestai annisgwyl oedd PH, ysgrifennydd cyffredinol Prospect o Lundain. Roedd e yno i wneud yr araith. Un peth wnes i ddarganfod am LJ yn y parti ffarwél oedd ei bod hi wedi gwneud gradd mewn Astudiaethau Affricanaidd a'i bod wedi dysgu'r iaith Hausa. Mae'n iaith bwysig yng ngorllewin Affrica ac mae'r BBC yn darlledu ynddi. Mae gan LJ ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg, a chyda'r sylfaen mewn Hausa a Ffrangeg fe ddylai wneud yn iawn.

Mae mwy o luniau o'r parti ar gael.

Daeth y parti i ben am 4 ac i ffwrdd a fi i grwydro yn bellach rownd i ganol Caerdydd.