Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-24

Ffair Lyfrau

Stondin Gwynedd Williams Books yn y ffair lyfrau, Ysgol PenweddigBore ddoe roeddwn yn fy ngwendid peidio â dweud 'na' wedi cael fy hun yn agos ffair lyfrau Cymdeithas Bob Owen a oedd yn cael ei chynnal yn Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig. Roedd nifer o stondinau diddorol yno, a chan taw fydd oedd yn agor fe wnes i brynu ychydig o lyfrau a llyfrynnau gan rai yr oeddwn yn eu hadnabod yn dda. Prynais i rai pethau oedd wedi bod gen i yn y gorffennol, ond sydd wedi mynd ar goll ers gadael Mynachlog-ddu. Fe brynais rai pethau eraill am resymau sentimental. Dyma restr o'r pethau a brynais i yn ôl gwerthwyr.

Mari Ellis
  • Allen Raine, Queen of the rushes: a tale of the Welsh revival (1906).
Gwynedd Williams Books:
  • R. S. Thomas, Abercuawg (1976). Bues i'n gwrando ar y ddarlith yn Eisteddfod Aberteifi, ac roeddwn i'n rhy ifanc i werthfawrogi'r peth!
  • Swyddfa'r Blaid Genedlaethol, Llawlyfr y Blaid (193-). Dyma sut roedden nhw'n gwneud pethau yn y 'dyddiau da'.
  • Moses Griffith, 1747-1819 (1979). Catalog arddangosfa a drefnwyd gan y Cyngor Celfyddydau, yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Llyfrgell Genedlaethol.
  • Geraint H. Jenkins, Y chwyldro Ffrening a Voltaire Cymru (1989). Dwi'n gwybod i'r peth gael ei gyhoeddi mewn cyfrol cyfansawdd, ond mae'n dda medru codi rhywbeth a'i ddarllen mewn noson!
  • Gruffydd Aled Williams, Dyffryn Conwy a'r Dadeni (1989).
  • Glanmor Williams, Dadeni, diwygiad a diwylliant Cymru (1964). Bues i'n defnyddio'r llyfryn hwn fel llyfr gosod yn yr ysgol wrth astudio Hanes i lefel A - un o'r ychydig bethau prin yn Gymraeg.
  • Enid Roberts, Dafydd Llwyd o Fathafarn (1981).
  • Saunders Lewis, Tynged yr iaith (1962). Mewn cyflwr da iawn.
  • R. Tudor Jones, Saunders Lewis a Williams Pantycelyn (1987).
  • D. J. Bowen, Dafydd ap Gwilym a Dyfed (1986). Anodd credu bod yn agos i ugain mlynedd ers Eisteddfod Abergwaun!
  • J. Beverley Smith, Yr ymwybod â hanes yng Nghymru yn yr oesoedd canol (1991?).
  • Rhifyn Hydref 1971 Y Traethodydd. Rhifyn coffa Waldo Williams.
  • Enid Roberts, Tai uchelwyr y beirdd, 1350-1650 (1986).
Hefin Llwyd
  • Hwnt ac yma: detholiad a wnaed dan nawdd Adran Gymreig y Bwrdd Addysg a Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru (1940)
  • D. Jacob Davies, Ar hyd y nos (1942)
  • TWW, Llwybrau llên: cyfrol o gyfansoddiadau buddugol y gyfres LLWYBRAU LLEN a drefnwyd gan TWW. (1963)
Bruce Griffiths ac Ann Corckett
  • Dafydd Jenkins, D. J. Williams (Writers of Wales) (1973)
  • James Nicholas, Waldo Williams (Writers of Wales) (1975)
  • T Hudson-Williams, A short introduction to the study of comparative grammar (Ind0-European) (1935).
Dylai neb gwyno ar ôl imi brynu cymaint!

Fel y dywedias fi oedd yn agor y ffair, ac felly roedd yn rhaid wrth 'araith' o ryw fath, a dyma oedd fy nghyfraniad i.

Diolch am y gwahoddiad a’r croeso i wneud rhywbeth fel hyn. Roeddwn i wedi hanner disgwyl cael potel o siampaen yn fy llaw i dorri dros rywbeth. Ond ar ôl gweld prisiau rhai o'r llyfrau yma heddiw efallai dros rhywun ddylwn i dorri'r botel i gael bach o synnwyr cyffredin i mewn i'w pen. Ond yn hytrach na siampaen, dyma ddilyn y drefn Gymreig gydag ychydig eiriau..

Dwi’n ofni taw gair o gerydd sydd gen i yn y lle cyntaf. Dwi’n synnu’n fawr iawn at y dewis dyddiad gyda chymaint o bethau pwysig yn mynd ymlaen, ac un peth yn arbennig. I fi mae e ond yn profi unwaith ac am byth nad oes gan y prif weinidog yr un diddordeb mewn diwylliant – neu pam yn y byd mawr trefnu’r etholiad i glasio gyda’r Ffair Lyfrau hon.

Wrth gwrs i’r sawl sydd yn fy adnabod i’n reit dda roedd hynny yn achosi problem fawr. Roedd yn rhaid imi ddewis hefyd. Beth oeddwn i am wneud? Dwi’n fodlon rhannu fy mhroblem gyda chi. Coch yw lliw fy hoff grys i wneud pethau fel agor ffeiriau llyfrau a thebyg. Wel, allwn i ddim gwisgo crys coch heddiw o bob diwrnod a chael rhai yn gwneud ensyniadau amdanaf. Felly dyma ddewis lliw niwtral lelog fel y tybiais i – a darganfod wedyn fod yr UK Independence Party a Peter Rogers Ynys Môn yn defnyddio’r lliw. Felly rhag ofn i neb gael y syniad anghywir byddai’n well imi ddatgan taw’r crys y buaswn wedi dymuno ei wisgo heddiw petai gen i un fydda i gwyrdd, ond doedd dim gen i.

Cofiwch dwi ddim yn rhy siwr pa mor addas fyddai’r crys gwyrdd heddiw chwaith, oherwydd gwyntoedd economaidd gerwin cyfalafiaeth bur fydd yn chwythu drwy’r ffair ‘ma.. Mewn geiriau eraill mae rhai ohonoch chi wedi dod yma i werthu ac mae’r gweddill ohonom ni wedi dod ‘ma i brynu. Nid arddangosfa yw’r lle ‘ma ond marchnad! Felly’r anogaeth fawr yw ichi brynu!

A hoffwn i ychwanegu fy anogaeth i at hynny drwy ddweud stori am fyfyriwr tlawd yn Eisteddfod Maldwyn 1981. Newydd orffen fel myfyriwr oeddwn i mewn gwirionedd ac yn gorfod byw ar yr hyn roedd Margaret Thatcher yn fodlon ei roi yn fy mhoced o wythnos i wythnos – ac rydych chi’n gwybod am haelioni’r wraig honno. Roedd gen i bum punt yn fy mhoced wrth grwydro’r maes a chael fy hun yn stondin gwerthwr llyfrau ail-law gyda chopi o ‘Ieithyddaeth’ T. Arwyn Watkins ar werth am ddwy bunt. Roedd yn rhaid imi ddewis – gig gyda’r nos neu lyfr Arwyn Watkins. Bu’n rhaid imi ddewis ac fe wnes i ddewis yn anghywir – y gig aeth a’r dydd. Dwi ddim yn cofio beth oedd y gig erbyn hyn, ond fe fues yn crwydro siopau llyfrau ail-law ein gwlad fel pelican yn yr anialwch yn chwilio am y llyfr tan 2004 – bron i bum mlynedd ar hugain. Ers hynny dwi erioed wedi gwneud y camgymeriad wrth ymweld â siopau llyfrau ail-law; dwi wedi prynu – allwn i byth eto fynd drwy’r trawma o fod heb lyfr T. Arwyn Watkins. Cofiwch chi, dwi ddim wedi’i ddarllen ers imi ei brynu – roeddwn wedi gwneud hynny flynyddoedd yn ôl, ond mae cael fy nghopi fy hun, gyda siaced lwch, wedi tawelu fy ngofidiau.

Felly ar ôl adrodd y stori fach ‘na o fy mhrofiad hoffwn ddymuno yn dda i’r gornel fach hon o’r byd cyfalafol, gan wybod fod hyd yn oed y cathod tew, y fat cats, mwyaf yn yr ystafell hon y greaduriaid annwyl iawn, sy’n gwneud cymaint o wasanaeth â ni sy’n chwilio am lyfr neu lyfrau penodol ag ydym ni â nhw wrth dalu’r prisoedd (rhy uchel ar brydiau) ar maen nhw’n eu gofyn gennym ni.

PRYNNWCH! GWERTHWCH! MWYNHEWCH!

Yr wyf yn falch o fedru datgan yn swyddogol fod Ffair Lyfrau 23 Ebrill 2005 ar agor. Bendith ar bawb sy'n prynu ynddi.