Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-26

Pregethu ym Mhenllwyn

Capel Penllwyn, Capel BangorRoedd dydd Sul yn ddiwrnod prysur yn dilyn ar brysurwch y Sadwrn. Y Sul hwn roeddwn wedi addo mynd i bregethu yng Nghapel Penllwyn yn lle ACD, ac yntau yn dal i fod yn yr ysbyty druan. Dwi heb ei weld ers rhyw bythefnos bellach, mae GC yn dweud ei fod ddod allan o'r ysbyty yr wythnos hon rhyw ben - bydd hi'n dda ei weld 'nôl yn tŷ unwaith eto, er bydd hi'n golygu hefyd llawer o waith edrych ar ei ôl wrth iddo gryfhau yn raddol.

Cefais groeso cynnes gan flaenoriaid a chynulleidfa Penllwyn gan fy ngweud i deimlo'n gartrefol. Bu un o'r blaenoriaid Mrs V yn garedig i ddod i'r dref i'm hôl a mynd â mi adref. Tynnais nifer o luniau o'r capel a'r caerflun o Lewis Edwards sydd yn sefyll y tu fas i'r capel.

SM gyda HM ym mwyty Tŵr y ClocWrth ddod 'nôl i'r dref dyma fynd i fwyty Tŵr y Cloc a chwrdd â SM, HM, Dr WD a'r Dr HW yno. Roedd SM newydd ddod 'nôl o Uganda a Rwanda ac yn llawn hanesion diddorol am beth sy'n digwydd yno. Roedd Dr WD ac yntau wedi bod i weld y ffilm Hotel Rwanda sy wedi'i gosod yn y wlad yn ystod yr hil-laddiad. Roedd gan SM lawer o hanesion o sut roedd unigolion wedi delio gyda chanlyniadau'r hil-laddiad hwnnw ar lefel bersonol a sut roedd y wlad i gyd yn ceisio gwneud hynny hefyd.

Yn ddiweddarach fe daeth y criw cinio arferol - RAJ, DJP, RO - at Dr HW a finnau ac fe gafwyd pryd o'r safon arferol. Ond ar ddiwedd y pryd fe gyhoeddodd y perchennog y newyddion anochel fod y lle yn cau ac mai'r dydd Sul canlynol fyddai'r Sul olaf iddo fod ar agor! Nid ydym wedi penderfynu eto beth wnawn ni. Dwi'n dal i feddwl yr hoffwn dorri'r arfer o fynd i un lle yn gyson a gwneud y peth yn llai ffurfiol er cymaint y mwynhad.

Rwyf wedi ceisio dod â'r holl luniau dwi wedi'u tynnu dros y misoedd diwethaf ym mwyty Tŵr y Cloc at ei gilydd.

Bwyty'r New Celtic, AberaeronO fan'ny dyma fynd i bwyllgor bychan o weithwyr etholiadol Aberystwyth a Phenparcau ym mwyty Home Caffee cyn troi am Aberaeron a phwyllgor sirol ar yr un pwnc. Roedd y tywydd yn hyfryd ac Aberaeron yn edrych ar ei orau. Wedi'r cyfarfod cafwyd cyfle i alw heibio i fwyty y New Celtic am baned a chacen. Ac ar ôl hyn'na i gyd roedd yn bryd dod adref. Wedi ychdig o sgwrs gyda DML fe es i i'r gwely yn gynnar a chysgu fel mochyn tan y bore.