Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-03

Dyfodol S4C

Os nad yw'n un peth mae'n beth arall. Mae ymgyrchu yn waith llawn amser heb sôn am geisio gwneud gwaith arall hefyd!. Fore Sadwrn roeddwn i wedi addo mynd i gynrychioli Cymdeithas yr Iaith Gymraeg mewn cyfarfod o Gylch yr Iaith. Nic cyfarfod yn trafod cynnwys y rhaglenni a safon y Gymraeg oedd hwn yn bennaf, ond cyfarfod gyda chadeirydd awdurdod S4C ynglŷn â dyfodol S4C yn dilyn argymhellion Ofcom sydd yn digwyd law yn llaw â'r drafodaeth am adnewyddu siartr y BBC. Cafwyd bore o drafod digon defnyddiol. Yn y diwedd cytunai pawb fod angen amddiffyn S4C rhag crafangau'r llywodraeth, cwmnïau cynhyrchu annibynnol cryfion, a'r farchnad rydd! Cawn weld beth a ddigwydd ond mae'n deg dweud fy mod yn ymddiried yn mwy yn S4C na'r farchnad rydd na'r llywodraeth i ddelifro.