Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-02

Cyngor Sir Ceredigion

Neuadd Cyngor Ceredgion, AberaeronO fewn dim roeddwn yn sefyll tu fas i ddrysau Neuadd Cyngor Ceredigion ac yn derbyn y croeso arferol gan drigolion serchog y dderbynfa. Gan ein bod yn gynnar dyma fynd i'r caffi i gael diod o ddŵr. Ond cyn pen dim roeddem ar ein ffordd i'r cyfarfod mewn ystafell nad oeddwn wedi bod ynddi o'r blaen – HL, AC, a finnau ar ran Cymdeithas yr iaith; y Cyng. Dai Lloyd Evans (arweinydd), y Cyng. Carl Williams (cabinet, traws-bynciol), Owen Watkin (prif weithredwr), Bronwen Morgan (corfforaethol). Dyw'r pethau yma byth yn hawdd, ac ar y cychwyn maen nhw'n fwy anodd byth. Ond o dipyn i beth fe ddechreuwyd trafod ac fe aeth ein trafodaethau ymlaen am ryw awr a chwarter. Dyma'r datganiad a ryddhawyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddiwedd y cyfarfod.
Mewn cyfarfod bore yma gydag arweinydd a phrif weithredwr Cyngor Ceredigion, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith eu galwad am sefydlu gweithgor arbennig er mwyn cynnal arolwg brys o sefyllfa’r iaith Gymraeg yng Ngheredigion.

Cafwyd trafodaeth adeiladol ac ymrwymodd yr arweinydd, Dai Lloyd Evans, i roi ystyriaeth i weithredu’r argymhelliad law yn llaw gyda’r gwaith o adolygu Cynllun Iaith y Cyngor. Dealla Cymdeithas yr Iaith y bydd adroddiad o’r cyfarfod nawr yn cael ei gyflwyno i gabinet y Cyngor ac felly bydd y mudiad yn parhau i bwyso er mwyn sicrhau trafodaeth ystyrlon ar ddyfodol y Gymraeg yng Ngheredigion. Meddai Huw Lewis, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Dengys canlyniadau Cyfrifiad 2001 mai Ceredigion yw’r ardal a welodd y diriwiad mwyaf yn y nifer o siaradwyr Cymraeg. Erbyn hyn, mae’r sefyllfa yn un ddifrifol iawn ac er mwyn ymateb i’r her, bydd angen gweithredu clir a phendant mewn sawl maes.

"Hyd yn hyn, nid yw arweinwyr y Cyngor fel pe baent yn sylweddoli beth yw maint yr argyfwng sydd yn eu hwynebu. Di-gyswllt a di-fflach yw eu hymdrechion o blaid y Gymraeg. O ganlyniad, mae’r Gymdeithas yn galw arnynt i sefydlu gweithgor arbennig a fydd yn cynnal arolwg brys er mwyn sbarduno proses o gynllunio ieithyddol strategol yng Ngheredigion. Dylai gweithgor o’r fath fod yn drawsbleidiol ei natur ac yn cael ei gadeirio gan aelod o’r cabinet.

"Fel cyfraniad i drafodaeth y gweithgor hwn mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi cyhoeddi dogfen – Siarter Ceredigion – sydd yn amlinellu cyfres o gamau y gall y Cyngor eu cymeryd. Byddwn yn tynnu sylw at rai o’r pwyntiau hyn yn ystod y cyfarfod."

Wrth adael y cyfarfod, pwysleisiodd swyddogion y Gymdeithas y byddai’n rhaid i unrhyw weithgor a gai ei sefydlu osgoi bod yn siop siarad. Dylai gael ei sefydlu ar sail cylch gorchwyl clir, gyda’r nod o gynnig camau pendant y gall y Cyngor eu cymeryd er lles y Gymraeg, mewn meysydd amrywiol megis addysg, gweinyddiaeth a chynllunio.
Y cwestiwn mawr yw beth fydd ymateb y Cyngor i'r galwad am weithgor; credwn ni fod hyn yn hanfodol ar gyfer creu trafodaeth fydd yn arwain at weithredu effeithiol.