Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-17

Bwyty Tŵr y Cloc i gau

Ffenest, Bwyty Tŵr y ClocOs yw'r cytundebau yn cael eu harwyddo'n fuan fe fydd bwyty Tŵr y Cloc wedi cau erbyn mis Mehefin ac ar ei ffordd i fod yn salon trin gwallt ac yn salon prydferthwch. Dyna beth yw grym y farchnad!

Dwi'n dechrau casglu ynghyd fy holl luniau i o fwyty Tŵr y Cloc i greu archif a fydd yn deyrnged i'r holl bleser dwi wedi'i gael o fwyta cinio Sul yno yng nghwmni ffrindiau.

Beth dwi'n mynd i'w wneud pan fydd y lle yn cau? Dwi ddim yn meddwl fod 'na unrhyw le sy'n mynd â'm bryd yn syth. Efallai taw'r peth gorau fyddai dechrau bwyta cinio dydd Sul yn y fflat unwaith eto. Mae wedi bod ychydig yn gaethiwus mynd i'r bwyty bob Sul mewn amebll ffordd. Fe gawn weld beth ddigwydd.