Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-22

Diolch i bawb

MHapI yn canfasio ward Rheidol, AberystwythRhag ofn imi roi'r argraff fy mod wedi llwyddo i ganfasio ward Rheidol ar fy mhen fy hun rhaid imi dalu teyrnged i bawb fuodd cystal ag ymuno รข mi er mwyn gwneud y gwaith. Mae'n waith di-ddiolch nad yw'n cael ei gydnabod fel y cyfranias sylfaenol i ddemocratiaeth fyw sy'n gweithio. Heblaw amdanom ni a gweithwyr yr holl bleidiau eraill sy'n fodlon gwneud y fath hyn o beth, rhywbeth marw fyddai y drefn ddemocrataidd. Ond diolch i SE, DML, HL, MHapI, a JT fu mor barod i helpu. Rydw i'n barod am her arall nawr - beth sydd angen ei wneud nesaf?