Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-02

Brecwast arall yng Nghegin Alban

Bws 550 Aberystwyth - Cei NewyddMae bod yn ymgyrchydd yn medru bod yn waith caled. Dyma'r ail fore o'r bron dwi wedi gadael Aberystwyth cyn 9 er mwyn cyrraedd Aberaeron. I'r rhan fwyaf o bobl dyw'r dref, er mor braf a hyfryd, ddim yn dueddol o gael ei gweld fel canolbwynt y byd. Nid Aberaeron yw'r lle mae popeth yn 'digwydd'. Ond dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf mae wedi bod yn Fecca i nifer fawr o bobl sy'n ymgyrchu dros y Gymraeg yn y sir. A dyna beth oedd hi i HL a finnau bore ddoe. Roeddem ar ein ffordd i gyfarfod ag arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dai Lloyd Evans, ac eraill i drafod a oedd y Cyngor Sir â bwriad i sefydlu Gweithgor y Gymraeg yng Ngheredigion.

Victoria yn gweini yng Nghegin Alban, AberaeronRoeddem yn Aberaeron awr a hanner cyn ein cyfarfod gyda Dai felly dyna gyfle arall i alw mewn yng Nghegin Alban. Roedd y lle yn llawn bywyd gyda phobl yn mynd a'n dod yn gyson. Ac mae'n arwydd o ba mor druenus yw'n canfyddiad o sefyllfa'r Gymraeg yn y sir ein bod yn rhyfeddu at faint o Gymraeg oedd i'w glywed. Roedd tri chwarter neu fwy o'r cwsmeriaid yn siarad Cymraeg a hynny'n uchel a chyda blachder. Da iawn hwy! Roedd y staff yn groesawgar iawn. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn dwli ar Aberaeron ar lawer cyfrif. 'Ta beth fe gafodd HL a finnau'r brecwast - wy, bara saim, selsig, bacwn, pwdin gwaed, tomato, madarch, dished o de, a thost. Gwych!

Brecwast Cegin Alban 2Pan ych chi'n mynd i wynebu Dai Lloyd Evans mae angen brecwast o'r fath arnoch chi. Mae e'n enwog am fod yn dipyn o ymladdwr! Ond diolch byth fod AC yn mynd i fod ar ein tîm ni felly. Roedd hi i fod i'n cwrdd yng Nghegin Alban. O'r diwedd dyma hi'n cyrraeg gyda'i hafiaith arferol. Ond roedd mwy o newyddion gyda hi'r tro hwn gan ei bod newydd gychwyn ar swydd newydd mewn caffi/siop yn Nhresaith. Roedd y cyfan yn swnio'n anturus iawn. Roedd yr amser yn dod yn nes, felly roedd yn rhaid cytuno ar syth fydden ni'n trin y cyfarfod, pwy oedd i ddweud beth, a sut i ymateb i'r adwaith oddi wrth Dai a'r gweddill. Erbyn 10.30am roeddem ar ein ffordd i fyny'r bryn i'r cyfarfod yn Neuadd Cyngor Ceredigion.