Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-04-17

Canlyniadau etholiad cyffredinol y Gymuned Awtonomaidd Fasgaidd

Mae canlyniadau etholiadau y Gymuned Awtonomaidd Fasgaidd wedi'u cyhoeddi ac mae'r canlyniadau braidd yn gymysglyd. Y glymblaid rhwng cenedlaetholwyr democrataidd Cristnogol (EAJ-PNV) a chenedlaetholwyr democrataidd cymdeithasol (EA) a gafodd y nifer fwyaf o seddau sef 29, ond 4 yn llai na'r tro diwethaf. Collodd y ceidwadwyr Sbaenaidd (PP) 4 sedd gyda dim ond 15; cynyddu o 5 sedd i 18 wnaeth y sosialwyr Sbaenaidd (PSE-EE/PSOE). Enillodd y chwith cenedlaetholgar (PCTV-EHAK) 9 sedd; y chwith (EB) 3 sedd; a chenedlaetholwyr chwith (Aralar) 1 sedd. Mae angen 38 sedd i gael mwyafrif, ond nid oes gan yr hen lywodraeth ESJ-PNV, EA, EB ond 32, mae gan y pleidiau Sbaenaidd 33 sedd; sy'n golygu fod y pwer yn nwylo EHAK - Plaid Gomiwnyddol Gwlad y Basg gyda 9 sedd. Dwi ddim yn gwybod chwaith ble mae hyn yn gadael cynllun Ibarretxe am fwy o ymreolaeth i'r Gymuned Awtonomaidd Fasgaidd. Diddorol.

Y canlynadiau
EAJ-PNV/EA 29
PSE-EE/PSOE 18
PP 15
PCTV-EHAK 9
EB 3
ARALAR 1