Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-22

Yr wythnos fawr

I'r rhai sy'n meddwl fy mod yn treulio gormod o amser mewn eglwysi, rhaid dweud fod yr wythnos hon yn dipyn o farathon - gwasanaeth bob nos o'r wythnos a rhaglen lawn ar gyfer dydd Gwener y Groglith a Sul y Pasg. Neithiwr fe gychwynwyd ar y gyfres gyda gwasanaeth yn Eglwys y Santes Anne, Penparcau. Cefais lifft i'r eglwys gan Dr HW, ar ôl cael lifft i'w dŷ e gan AVH. Y pregethwr gwâdd am yr wythnos yw Michael Baughen, cyn-esgob Caer. Roedd ei negea neithiwr yn dweud ei bod hi'n hollbwysig deall pwy yw Iesu, cyn mynd at i geisio deall beth ddigwyddodd ar Galfaria yn seiliedig ar Hebreaid pennod 1. Pregethwr da iawn y mae'n werth mynd i'w glywed.