Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-22

Testament Newydd Iseldireg

Neithiwr des i o hyd i gopi o'r Testament Newydd mewn Iseldireg sydd wedi bod gen i ers diwedd yr 1980au, ond sydd heb gael ei dreulio rhyw lawer. Fe'i prynais ar ymweliad รข Brugge. Mae adnodau agoriadol y bennod gyntaf o'r llythyr at yr Heberaid a oedd yn destun i bregeth yr esgob yn darllen fel hyn:
Nadat God eertijds vele malen en op verelei wijzen tot de Vaders gesproken heeft door de profeten, heeft Hij aan het einde dezer dagen tot ons gesproken door den Zoon.
Mae'r cyfieithiad yn un 'hen' erbyn hyn, fe'i gwnaed yn 1951 gan dderbyn imprimatur Archesgob Utrecht (Pabyddol) yn 1952. Mae'n 'hen' hefyd am ei fod yn defnyddio'r rhagenw 'gij' (yn cyfateb i'r Saesneg 'thou') sydd wedi diflannu o Iseldireg safonol, ond sy'n dal i fod yn fyw yn Fflandrys a de'r Iseldiroedd medden nhw! Byddaf yn siwr o weld pa mor wir yw hynny yn Kortrijk.

Cafwyd cyfieithiad newydd o'r Beibl i Iseldireg yn 2004, De Nieuwe Bijbelvertaling (NBV) , a dyma sut mae'r adnodau o'r llythyr at yr Hebreaid yn darllen yn hwnnw:
Op velerlei wijzen en langs velerlei wegen heeft God in het verleden tot de voorouders gesproken door de profeten, maar nu de tijd ten einde loopt heeft hij tot ons gesproken door zijn Zoon.
Wrth gwrs, nid yw'r cyfieithiad newydd wedi cael croeso gan bawb, gan fod newid yn medru bod mor anodd ar brydiau. Ond mae cymdeithasau Beiblau yr Iseldiroedd a Gwlad Belg wedi bod yn nyddu'r stori i ddweud taw'r unig lyfr sy'n gwerthu'n well na'r Beibl newydd yw The Da Vinci code. Prin fod angen imi ddweud dim am y llyfr hwnnw gan fod pawb wedi'i ddarllen, pawb ond finnau, mae'n siwr.