
Neithiwr, nos Fercher, cefais wahoddiad gan gangen Bro Dafydd o Blaid Cymru i fod yn gwisfeistr mewn noson gymdeithasol i'w chynnal yn y Clwb Pêl-droed. Es i a Dr MWR o gangen Aberystwyth a Phenparcau i gefnogi'r noson. Mae'r ddau ohonom ni'n ddi-gar a bu RO yn garedig iawn wrth ddod mewn i'r dref i roi lifft inni. Pan gyrhaeddon ni'r Clwb roedd popeth mewn tywyllwch ond o fewn ychydig funudau roedd y lle'n llawn bywyd. Nid Plaid Cymru oedd yr unig rai yn cyfarfod yn y Clwb neithiwr, roedd y Buffs, neu'r Royal Antediluvian Order of Buffaloes, yn cynnal rhywbeth hefyd - cystadleuaeth!

Roedd hi'n noson hwyliog, gyda phawb yn fodlon chwarae yn ysbryd y gêm. Roedd popeth yn gymharol ddidrafferth, heblaw am rownd ar adnabod cerddi o lythrennau cyntaf geiriau'r llinellau cyntaf. Roedd hynny'n ormod o her hyd yn oed i aelodau Plaid Cymru gogledd Ceredigion! Dyma gyfle ichi gystadlu i weld a allwch chi adanbod y cerddi hyn. Os ydych chi am yr atebion mae croeso ichi gysylltu â mi ar dogfael@btopenworld.com er mwyn cael copi.
1. N Y F H M
2. F A Y M M NG B
3. P F Y H A PH
4. O D Y M A D
5. G O G M P O C
6. G F Y H H
7. P E C Y T RH
8. M F M F D C G T M
9. D M Y D
10. C I A CH U
Mae 'na fwy o ffotograffau ar gael o'r noson ym Mhenryn-coch.