Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-24

Parti ffarwelio Helen

Nos Fawrth, yn hytrach na gwasanaethau'r wythnos fawr, fe gefais fy hun yn yr Hen Orsaf, unwaith eto. Y tro hwn roeddwn yno ar ddau berwyl - i gyfarfod â llyfrgellydd o'r Alban oedd yn dod i drafod gwaith, ac i ffarwelio â Helen o Culturenet Cymru.

Er fy mod i wedi dweud na fyddwn yn sôn dim am waith, trwy gydweithio gyda hi dwi wedi dod i adnabod Helen. Ac mae cydweithio gyda Helen wedi bod yn brofiad gwerthfawr a da. Mae hi'n mynd i weithio i Brifysgol Bryste yn gweinyddu un o'i gwefannau. Ond nid yw'n gwneud hynny tan fis Mai, ac yn y cyfamser mae hi'n mynd i gerdded ym mynyddoedd Andalucia.

Roedd y noson yn un dda ac fe gafwyd lot o hwyl. Mae 'na fwy o luniau o'r noson ar gael - dwi'n ymddiheuro i bawb nad wyf wedi cael amser i wneud dim am y llygaid cochion! Cofiwch nad ydw i'n ffotograffydd, os gwelwch yn dda.

All the best Helen! We hope that you can keep your promise to come back to Aberystwyth with your Welsh honed to perfection after long nights of study in Bristol, and we promise to always keep a welcome in the hillside for you.