Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-25

Nos Iau Cablyd

Neithiwr roedd gwasanaethau'r wythnos fawr yn parhau yn Aberystwyth gyda gwasanaeth cymun ar y cyd i holl eglwysi'r dref yng Nghapel y Morfa. Roedd yn wasanaeth da iawn gyda nifer go dda yn bresennol, ond ymhell o fod holl Gristnogion y dref.

Arweiniwyd y gwasanaeth gan weinidog Capel y Morfa y Parchg PLlJ ond roedd nifer fawr wedi cymryd rhan. Darllenodd y Parchg AW (St. David's) Salm 23 yn Saesneg; cafwyd gweddïau o ddiolch, edifeirwch a maddeuant gan AO (St. Michael's); darlleniadau gan DW (Bethel), Capten RH (Byddin yr Iachawdwriaeth), y Parchg. AL (Seion) a'r Parchg IA (Holy Trinity); a gweddïau o eiriolaeth gan JS ac AS (St. Paul). Llywyddywd wrth y bwrdd gan y Parchg PLlJ a'r Parchg Ganon SRB. Y pregethwr gwâdd unwaith eto oedd cyn esgob Caer, y Gwir Barchg Michael Baughen. Pregethodd yn Saesneg, wrth gwrs. Ei destun oedd undeb Cristnogion yng Nghrist, ac fe gymrodd fel testun adran o lythyr S. Paul at Gristnogion Effesus(Effesiaid 2:13-19):
Ond yn awr, yng Nghrist Iesu, yr ydych chwi, a fu unwaith ymhell, wedi eich dwyn yn agos trwy waed Crist. Oherwydd ef yw ein heddwch ni. Gwnaeth y ddau, yr Iddewon a'r Cenhedloedd, yn un, wedi chwalu trwy ei gnawd ei hun y canolfur o elyniaeth oedd yn eu gwahanu. Dirymodd y Gyfraith, a'i gorchmynion a'i hordeiniadau. Ac felly, i wneud heddwch, creodd o'r ddau un ddynoliaeth newydd ynddo ef ei hun, er mwyn cymodi'r ddau â Duw, mewn un corff, trwy'r groes; trwyddi hi fe laddodd yr elyniaeth.Fe ddaeth, a phregethu heddwch i chwi y rhai pell, a heddwch hefyd i'r rhai agos. Oherwydd trwyddo ef y mae gennym ni ein dau ffordd i ddod, mewn un Ysbryd, at y Tad. Felly, nid estroniaid a dieithriaid ydych mwyach, ond cyd-ddinasyddion â'r saint ac aelodau o deulu Duw.
Fel nos Lun roedd yn bregeth yn un bwerus iawn ac fe gefais fy nwysbigo i newid rhai o'm hagweddau ac i geisio anghofio fy rhagfarnau.

Nid oeddwn erioed wedi bod yng Nghapel y Morfa o'r blaen mewn gwasanaeth cymun ac roedd y peth yn wledd o brofiadau newydd. Yn y lle cyntaf roedd y blaenoriaid yn dod i mewn yn un fflyd - o ddau ddrws, a'r cyfan mewn siwtiau a teis, prin eich bod yn sylwi ar y menywod yn eu plith. Roedden nhw fel milwyr yn eu disgyblaeth wrth fynd i'w seddi. Roedd yn olygfa drawdiadol, i ddweud y gwir roedd teimlad fod gan y bobol hyn awdurdod yn y lle yn un gallech ei gyffwrdd bron. Oni bai fy mod yn adnabod un neu ddau ohonyn nhw ac yn gwybod pa mor annwyl ac agos-atoch-chi oedden nhw mewn gwirionedd, roedd yr argraff yn un a allai fod wedi codi 'ofn' o ryw fath. Ond doedd hyn yn ddim o'i gymharu a choreograffi cymhleth y cymuno ei hun. Yn eu tro, ac yn gwbl drefnus, dyma don ar ôl ton o flaenoriaid yn ymddangos i ranu'r bara a'r gwin, ac yna dyma hwy i gyd yn codi ac yn dod i'r blaen i dderbyn y cymun ar ôl pawb arall. Roedd hi'n olygfa ryfeddol, ac roedd y symud mor berffaith fel y gallen nhw, ond iddyn nhw fedru symud cystal mewn dŵr, yn iawn gipio medal aur yn y synchronised swimming yn y Gemau Olympaidd. Roedd y symud yn llawer mwy cymhleth na dim dwi wedi'i weld mewn gwasnaeth cymun yn nhraddodiad y Dwyrain gyda'r offeiriaid a'r diaconiaid yn mynd i mewn ac allan drwy'r pyrth i'r cysegr yn gyson. Profiad gwerthfawr ac annisgwyl.