Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-29

Ymlaen i Gastellnewydd Emlyn

Ni ddaeth ein gwibdaith i ben gyda'r ymweliadau llesmeiriol â Chilfowyr a Manordeifi. Yn hytrach yn ôl â ni'r ffordd fawr sy'n arwain o Aberteifi i Gastellnewydd Emlyn. Doeddwn i ddim wedi bod yma ers blynyddoedd - er pan oeddwn yn ifanc yr oeddem yn dod yma'n aml i siopa. Mae'r lle wedi newid ers hynny, ac i ddweud y gwir y mae'n dref fechan ddeniadol. Mae'n amlwg fod cyfnod ei 'phwysigrwydd' yn perthyn i'r gorffennol, ond y mae'n dal i lwyddo i gynnal ei hurddas.

Dyma grwydro ychydig ar hyd y strydoedd a dod o hyd i nifer o drysorau cuddiedig nad oeddwn yn cofio eu cysylltu gyda Chastellnewydd Emlyn: pencadlys sylweddol Cymdeithas Tai Cantref yn dwyn yr enw 'Llys Cantref' a swyddfeydd y cwmni cyfieithu Trosol.

Wrth gwrs, ni ddylai neb ymweld â Chastellnewydd Emlyn heb daro heibio'r castell a roes ei henw i'r dref. Adeiladwyd y castell yn 1240 gan Maredudd ap Rhys Gryg. Dyma un o gestyll y Cymry ac mae plac ar y ffordd i'r castell yn gosod allan rhai digwyddiadau yn ei hanes – fe'i cipiwyd gan luoedd Owain Glyn Dŵr yn 1403; daeth yn eiddo i Syr Rhys ap Thomas yn 1500; cafodd y castell ei ddarnio gan luoedd y senedd yn ystod y Rhyfel Cartref rhag iddo syrthio i ddwylo'r brenin. Yn dilyn hynny aethpwyd â llawer o'r meini gan drigolion lleol at eu defnydd eu hunain. Mae peth gwybodaeth ar y rhyngrwyd am y castell, yn arbennig ar wefan Castles of Wales a Hanes Emlyn. Yn anffodus mae'r ddwy wefan yn Saesneg.

Roedd gan Evan Roberts y Diwygiwr gysylltiadau â'r dref hefyd. Yn ystod ei gyfnod yn astudio yma ar gyfer y weinidogaeth yr aeth i'r cyfarfod hwnnw ym Mlaenannerch lle cafodd ei brofiad ysbrydol dwys. Yng Nghastellnewydd Emlyn fe ddaeth o dan ddylanwad gweinidog Bethel, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Evan Phillips.

Roedd yr amser yn hedfan ac roedd hi'n bryd inni ddechrau am adref. Wedi taith ar hyd glannau Teifi trwy Fangor Teifi, ac heibio i Ystafell Eglwysig Bangor Teifi a godwyd yn 1927, fe gyrhaeddwyd Llanbedr Pont Steffan. Yno fe gafwyd te a chacen yng Ngwesty'r Llew Du, ac yna adref i Aberystwyth.

Ceir mwy o luniau o Gastellnewydd Emlyn.