
Rhaid imi gyfaddef fod y toiledau hyn yng Nghilfowyr wedi fy nghyffroi i'n lân ar fy ngwibdaith. Mae'n rhyfedd beth sy'n medru eich llenwi â hiraeth am a fu. Achos eu bod mor nodweddiadol o'r toliedau dwi'n eu cofio mewn tai-cwrdd ar hyd a lled dwyrain Sir Benfro a gorllewin Sir Gaerfyrddin wrth fynd o Gymanfa Bwnc i Gymanfa Ganu a vice versa, fe wnaethon nhw droi ymweliad hamddenol yn daith hiraethus i fyd nad oes sôn amdano mwyach, ac sy'n prysur ddiflannu o'r cof. Ond dyma'r byd a'm gwnaeth i, er drwg neu er da.
