Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-28

Cilfowyr a Manordeifi

Fel un sydd ag etifeddiaeth grefyddol gymysg - Bedyddiedig ac Eglwysig - roedd y lle nesaf ar ein taith yn gyfle i fwynhau'r ddau. Wedi bod yn Aberporth ymlaen â ni heibio i'r hen RAE, sydd bellach yn cael ei alw yn Parc Aberporth ac yn cael ei ddatblygu yn ganolfan busnes gan y WDA a'i bartneriaid. Yn ddiddorol iawn mae'r cynllunwyr wedi gosod dau wegam er mwyn medru dilyn y datblygiadau. Wedi cyrraedd 'nôl i'r ffordd fawr ym Mlaenannerch ymlaen â ni i Aberteifi a dechrau dilyn cwrs Afon Teifi nes cyrraedd Llechryd. Dros bont Llechryd ac i Sir Benfro.

Gan ein bod yn yr ardal yr oeddwn am ddangos Capel y Bedyddwyr yng Nghilfowyr i RO, gan wybod y byddai'n gwerthfawrogi'r profiad. Mae Capel Cilfowyr yn hen achos gan y Bedyddwyr yn olrhain yn ôl i Eglwys Rydwilym a sefydlwyd yn 1668. Oherwydd yr erlid arnyn nhw roedd y Bedyddwyr cynnar, fel yr Annibynwyr hwythau, yn sefydlu eu heglwysi ac yn codi eu tai-cwrdd mewn mannau diarffordd. Mannau sy'n dal i fod yn bell o sŵn prysurdeb y byd. Lleolir Cilfowyr lan uwchben pentrefi Llechryd a Chilgerran, ac o'r fan gellir edrych ar y wlad o gwmpas Afon Teifi yn ei gogoniant.

Mae'r lle'n cael ei gadw'n dda, er bod y busnes o sicrhau fod y cerrig beddau yn ddiogel yn dal i fod ar waith. Ger y tŷ-cwrdd mae'r festri ac yna nid nepell (neu nepell) ar lan nant, y fedyddfa ei hun. Mae'n rhaid imi gyfaddef fod gweld gwrthych mor sanctaidd yn rhan mor naturiol o'r amgylchedd wedi fy nharo i'n fawr, gan wneud imi sylweddoli unwaith eto cymaint yn rhan o fywyd yw Cristnogaeth a chymaint o Gristnogaeth sydd yn rhan o fywyd. Hefyd fe ddaeth ag atgofion chwerw-felys yn ôl imi am fachgendod a llencyndod ym Mynachlog-ddu, am fy mam a fy nhad, ac am bopeth sydd wedi diflannu bellach. Roedd y dagrau yn barod, ond doeddwn i ddim am godi embaras ar RO, er y gallwn i fod wedi llefain am oriau! Ond roedd car RO yn newydd ac fe fyddai'n biti gwlychu y carpedi yn stegets. A 'ta beth, roedd 'na dipyn o sentimentalrwydd yn y dagrau hefyd – rhywbeth i'w osgoi. I'r sawl sydd â diddordeb mewn capeli a'u hanes yna efallai y dylai ymuno â Capel: Cymdeithas Treftadaeth y Capeli.

Ceir mwy o luniau o Gilfowyr.

Nid oedd amser i oedi gormod gan fy mod am ddangos un trysor arall i RO yng ngogledd Penfro, sef hen eglwys Manordeifi. Mae'r eglwys erbyn hyn wedi'i chau, ond mae'n dal i fod ar agor i ymwelwyr oherwydd gwaith cymdeithas o'r enw The Friends of Friendless Churches. Mae'n eglwys hynafol ar enw Llawddog, ond fe geisiodd y Normaniaid ei chyflwyno i Lawrens fel sant oedd yn fwy derbyniol ac adnabyddus iddynt. Y Cymry a drechodd! Mae'r gangell a'r corff yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, ond yr hyn sy'n drawiadol am yr eglwys yw'r corau blwch o'r ddeunawfed ganrif. Mewn dau ohonyn nhw mae 'na le tân i gadw'r byddigions yn dwym. Oherwydd fod Afon Teifi yn gorlifo mor aml ac mor gyflym roedd hi'n arfer cadw cwrwgl yn yr eglwys fel y gallai addolwyr ddianc hyd yn oed ar adeg llifogydd.

Ceir mwy o luniau o Eglwys Manodeifi.