Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-20

Treulio trwy'r dydd yn y cwrdd

Bues i'n siarad gyda rhywun sy wedi darllen y blog ac roedd yn poeni fy mod yn treulio gormod o fy amser yn y capel. Wel, rhybudd IMJ yw hyn, buasai'n well iti wneud rhywbeth arall achos dwi wedi cael Sul hynod o eglwys-ganolog!

Mae Miss MP yn sal, ac fel warden fe holodd imi fynd i'r Eglwys S. Mair ar gyfer gwasanaeth y cymun bendigaid am 8.00am, a dyna a wnes i. Aeth popeth yn iawn - saith yn cymuno ac wrth gwrs y darlleniad hir yr efengyl yn adrodd hanes y croeshoeliad. Fel arfer fe fyddwn yn sefyll ar gyfer yr efengyl, ond heddiw fe gawsom eistedd! Wedyn 'nôl i'r tŷ i gael ychydig frecwas cyn mynd mas unwaith eto ar gyfer gwasanaeth y foreol weddi am 10.00am gyda'r Parchg AH yn pregethu. Roedd Dr HW yn y gwasanaeth, ond chefais i ddim llawer o gyfle i siarad gan fy mod yn ceisio trefnu'r gwasanaeth nos Sul nesaf - Dydd y Pasg - pan fyddaf yn pregethu. GW sy'n canu'r organ ac felly dwi'n gobeithio trefnu gwasanaeth myfyriol gan ddefnyddio caneuon o Taizé.

Cinio wedi'r cwrdd ym mwyty Tŵr y Cloc - RAJ, DML, RO, Dr HW – a chlywed y newyddion fod y lle ar fin cael ei werthu a bod y perchennog yn mynd. Dyma gyfle inni newid ychydig ar ein trefn Sul arferol efallai. Ond dim amser i hamddena heddiw oherwydd am 2.10pm roedd y Parchg PT a'i wraig yn fy nghodi wrth y cloc i fynd â fi Benrhyn-coch i arwain gwasanaeth am 2.30pm yn Horeb, tŷ-cwrdd y Bedyddwyr. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd o wanwyn. A hithau'n Sul y Blodau fe wnes i bregethu ar adran allan o'r hanes fel y cafodd ei adrodd gan yr efenyglwr Luc (pennod 19:41-44):
Pan ddaeth yn agos a gweld y ddinas [sef Jerwsalem], wylodd Iesu drosti gan ddweud, "Pe bait tithau, y dydd hwn, wedi adnabod ffordd tangnefedd-ond na, fe'i cuddiwyd rhag dy lygaid. Oherwydd daw arnat ddyddiau pan fydd dy elynion yn codi clawdd yn dy erbyn, ac yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat o bob tu. Fe'th ddymchwelant hyd dy seiliau, ti a'th blant o'th fewn; ni adawant faen ar faen ynot ti, oherwydd dy fod heb adnabod yr amser pan ymwelwyd â thi."
Wedi'r gwasanaeth, lle cefais groeso ardderchog, fe gafwyd cwpanaid o de yn y festri a chyfle i sgwrsio gyda hwn a'r llall. Byddaf yn ôl ym Menrhyn-coch nos Fercher, ond yn y Clwb Pél-droed tro hwn yn cynnal cwis wedi'i drefnu gan Blaid Cymru.

Yn ôl i'r dref, ac ar ôl paned yn yr Home Caffee roeddwn ar fy ffordd i bregethu yn Bethel, tŷ-cwrdd y Bedyddwyr yn Aberystwyth. Yn y festri maen nhw'n cwrdd fel arfer, mae'r capel yn fawr iawn. Cefais groeso cynnes yma eto. Roeddwn i'n llenwi'r Sul dros ACD. Mae yntau yn yr ysbyty bellach yn disgwyl am lawdriniaeth ac fe gafwyd cyfle i gofio amdano yn ein gweddïau. Rhaid i mi gyfaddef fy mod yn gweld ei eisiau'n barod.

Ac erbyn hyn dwi adref, yn barod am swper ac wedyn troi at Dutch in three months i weld beth alla' i geisio ei ddysgu cyn mynd i'r gwely. Dwi ddim yn credu fod dim o ddiddordeb i fi ar y teledu gan nad wyf yn ffan mawr o'r gyfres Amdani er bod nifer fawr yn ei mwynhau.