Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-19

Ennill a cholli

Ar ôl 27 o flynyddoedd mae tîm rygbi Cymru wedi ennill y gamp lawn unwaith eto, ac yn sgil hynny pencampwriaeth y chwe gwlad. Dwi'n teimlo'n well yn barod. Mae holl besimistiaeth y blynyddoedd diwethaf wedi diflannu a dwi'n edrych ymlaen i ddarllen y Western mail ddydd Llun. Pwy sydd eisiau trafodaeth gall ar wleidyddiaeth yng Nghymru neu ar faterion cyhoeddus, pan mae'n bosib cael rygbi drwy'r dydd bob dydd.