Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-31

Syndod a llawenydd

Neithiwr a finnau wedi cael digon ar y teledu (fel arfer) ac wrthi'n ysgrifennu rhyw bwt at y cyfrifiadur fe ganodd y ffôn. Roedd hi tua 9.40pm. Doeddwn i ddim yn disgwyl neb i ffonio, roeddwn wedi siarad gyda RO yn barod ynglŷn â threfniadau mynd lawr i Aberaeron yn y bore gogyfer â'r ymchwiliad cyhoeddus ar gownt y Cynllun Datblygu Unedol. A dyma lais cyfarwydd ar y ffôn yn holi sut oedd ei giwrad! ACD o bawb! Cefais fy llonni i glywed ei lais cyn gryfed a syweddoli ei fod wrthi'n 'trefnu' fel arfer. Trefnu fy nghludo o un man i'r llall ar gyfer pregethu yn ei le yr oedd yn ei wneud. Wastad yn meddwl am bobol eraill. Cefais sgwrs fer am y peth hyn a'r peth arall, ac wrth gwrs roed yn rhaid imi gael gofyn am godi'n gynnar a mynd i'r gwely'n gynnar. Ond roedd hi'n swnio i fi fel fod ACD yn llwyddo i gael ychydig o'i ffordd ei hun... Brysied y dydd pan fydd yn ddigon da i ddod 'nôl i Faes Lowri! Dwi'n dal i weld ei eisiau.