Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-30

DML yn ôl o ogledd Powys

Bellach nid yw'r ystafell yn dywyll oherwydd bydd y tân wedi'i gynnau ar aelwyd Cymdeithas yr Iaith o fewn dim, achos pan ddes i adref o'r gwaith neithiwr roedd DML yn disgwyl amdanaf. Fel mae rhai pobol yn mynd adref at eu teulu ac yn dod 'nôl a'r peth hyn a'r peth arall, mae DML wastad yn dod 'nôl â hanesion difyr Dyffryn Banwy neu Banw. Mae defnyddio 'Banw' fel mae'r trigolion yn ei wneud i mi yn ymddangos braidd yn ymhonnus, fel Hywel Gwynfryn yn dweud 'Tidrath' ac 'Abergweun' am Trefdraeth ac Abergwaun yn Sir Benfro. Yr wyf hefyd yn un o ddisgyblion teyrngar Elwyn Davies, Rhestr o enwau lleoedd ac yn ei chael hi'n anodd i ymadael o unrhyw ffurf sy'n cael ei argymhell ganddo - onibai ei fod yntau yn gwbl rong hefyd!

'Ta beth, mae DML wedi dod yn ôl â hanesion Dyffryn Banwy. Roedd ganddo ddigon o hanesion am ei deulu ac am Gyngor Cymuned Dyffryn Banwy lle mae ei chwaer, CH, yn gynghorydd parchus. Gŵr CH yw AH ac mae yntau yn ddyn sy'n gwybod llawer am arferion cefn gwlad ac am hanes lleol. Mae'n gasglwyr wrth reddf yn ôl beth mae DML yn dweud wrthyf fi. Yn ddiweddar mae wedi dechau ymddiddori mewn cardiau post. Ac roedd DML yn dweud ei hanes yn casglu ac yn siarad amdanynt. Mae hanes cardiau post yn medru bod yn ddiddorol ond ichi gael y person iawn i wneud y siarad.