Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-31

Cynllun Datblygu Unedol Ceredigion unwaith eto

Bore heddiw fe gefais fy hun yn Neuadd Cyngor Ceredigion yng nghwmni RO i drafod yr adran ar Benrhyn-coch yn y Cynllun Datblygu Unedol.

Yn y gadair yr oedd yr Arolygydd Alwyn Nixon, o'r Arolygiaeth Gynllunio, RO a finnau yn cynrychioli yr hyn oedd yn iawn a chyfiawn, a R. Rhys a R. Hughes-Pickering yn cynrychioli Cyngor Sir Ceredigion.

Ar ddechrau'r cyfarfod gosododd RO y dadleuon yn erbyn yr amcangyfrif cyffredinol ar gyfer anghenion tai yng Ngheredigion a oedd yn gyfrifiol am osod 100 o unedau newydd ym Mhenrhyn-cocg yn y lle cyntaf. Nododd effaith posib tai newydd a symud poblogaeth ar natur ieithyddol y pentref. Sylwodd hefyd ar y gof-ddatblygu a fu yn y pentref dros yr ugain mlynedd blaenrorol sydd wedi newid cymeriad y pentref ac y byddai datblygiad pellach yn troi'r pentref yn fwy byth o faesdref. Dywedodd hefyd y byddai datblygiad pellach â goblygiadau ar gyfer ffyrdd, gwasanaethau a charffosiaeth.

Sylwodd yr arolygydd fod trafodaethau maith wedi bod ar yr amcanion poblogaeth ac ar effaith ieithyddol a diwylliannol y datblygiadau a awgrymir yn y cynllun a byddai hynny'n cael ei ystyried yma, ond ei fod am edrych yn benodol ar y cynigion ar gyfer Penrhyn-coch.

Edrychwyd ar y lleiniau o dir y bwriedir eu cynnwys o fewn y cynllun ar gyfer datblygu posib. Nodwyd y byddai 100 uned yn nod ar gyfer datblygu tai gan y cynllun ar gyfer y cyfnod o 2001-2016, ac y byddai'r datblygiadau hyn yn cael eu gwneud yn raddol ('phased') ac y byddai'n cynnwys elfen o dai fforddiadwy.

Ond o edrych yn fanylach ar y ffigurau fe welwyd fod 56 o'r unedau eisoes wedi'u codi, fod 32 arall yn yr arfaeth, gan adael dim ond 12 uned ar ôl ar gyfer y cyfnod o 2006-2016, sef ychydig dros 1 uned y flwyddyn. Felly nid oedd unrhyw dystiolaeth o gwbl o'r awdurdod cynllunio yn ceisio rheoli datblyu yn raddol hyd yn hyn. Oherwydd taw polisi cymharod ddiweddar yw cynnwys elfen o dai fforddiadwy ni chredir y bydd mwy 'na rhyw 8/9 o dai fforddiadwy allan o'r 100 uned a ragwelir yn y cynllun.

Wrth gwrs, dyw pethau ddim cweit mor syml â hynny. Dywedodd y swyddogion cynllunio nad oedd yr uchafswm o 100 o anghenraid yn cynrychioli'r union nifer o unedau a fydd yn cael eu codi ym Mhenrhyn-coch. Mae digon o dir wedi'i gynnwys o fewn i'r ffiniau cynllunio i godi hyd at 183. Ond byddai unrhyw ddatblygiad dros 100 yn gorfod cael Asesiad effaith cymunedol. Ond o holi'n bellach ar hynny cyfaddefwyd fod meini prawf yr asesiadau hynny yn weddol annelwig. Cyfaddefwyd hefyd y gallai 'dadleuon cryf' feddwl fod y nifer yr unedau a adeiledir yn fwy na'r 100 a nodir. Ac er i'r cynllunwyr gyfaddef fod y 149 o unedau oedd wedi'u hadeiladu o dan y cynllun blaenorol yn ormod i'r pentref nid oedd sicrwydd y byddai'r nifer o dan y cynllun datblygu unedol ddim yn llai, ac fe allai fod yn fwy.

Roedd y broses yn ymddangos yn llac iawn imi, ac nid oeddwn yn gweld unrhyw fethodoleg wrth waith wrth bennu 100 o unedau ar gyfer Penrhyn-coch yn y lle cyntaf. Ac os taw dim ond 12 o dai yn ychwanegol at yr hyn sydd wedi'i godi'n barod ac yn yr arfaeth sydd i'w hadeiladau pam cynnwys lleiniau eang o dir o fewn i'r cynllun.

Gwnaeth RO ei bwyntiau yn glir ac yn gryno. Gobeithio'n fawr fod yr arolygydd wedi gweld na wnaed unrhyw fath o asesiad lleol am yr angen am dai, ni wnaed unrhyw asesiad o effaith 100 o unedau ar y Gymraeg na diwylliant y pentref. Roedd y cyfan wedi dod o'r top i lawr - cynllun yn annog mewnfudiad yw'r cynllun datblygu unedol, a byddai'n rhaid i i Benrhyn-coch dderbyn ei siâr o'r mewnfudiad.

Fe wrandawodd yr arolygydd ar ddadleuon RO yn gwrtais a chyda diddordeb. A fydd hyn yn gwneud un iot o wahaniaeth i beth fydd y canlyniad? Fe gawn weld. Mae'r ymchwiliad i fod orffen ar 26 Mai. Wedyn fe fydd yn rhaid i'r arolygwyr ystyried y dystiolaeth ac ysgrifennu'r adroddiad ar gyfer y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio yn Llywodraeth y Cynulliad, Carwyn Jones.