Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-16

Siarter Ceredigion 2005

Neithiwr fe fues i mewn cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith yng Nghanolfan Merched y Wawr, Stryd yr Efail, Aberystwyth. Fi oedd i gadeirio. Roedd y cyfarfod yn un ar gyfer cyflwyno syniadau Cymdeithas yr Iaith ynglŷn â chreu dyfodol i'r Gymraeg yng Ngheredigion.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn poeni'n fawr am yr hyn sy'n digwydd i'r Gymraeg yn y sir. Ceredigion welodd y cwymp mwyaf yng ngharan siardwyr Cymraeg yn ystod y cyfnod 1991-2001. Oherwydd ei phryder am ddyfodol y Gymraeg yma maen nhw wedi cyhoeddi rhaglen waith ar gyfer y cyngor, Siarter Ceredigion 2005. Yn anffodus fe wnaeth y ffliw daro dau o'r tri siaradwr ac yn y diwedd ychydig iawn o siâp oedd ar y cyfarfod.

Ond mae'r ymgyrch Siarter Ceredigion 2005 yn cael mwy o lwyddiant. Cafwyd cadarnhad heddiw y bydd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith, a minnau yn eu plith, yn cael cyfarfod gydag arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Dai Lloyd Evans. Dwi'n edrych ymlaen i'r cyfarfod yn fawr iawn. Gobeithio y bydd yn gyfle inni ystyried o ddifrif y camau y mae'n rhaid eu cymryd i sicrhau parhad y Gymraeg yma.