Dwi ddim am swnio fel Michael Howard nag unrhyw Dori arall, ond roedd cael bil treth y cyngor heddiw yn dipyn o sioc.
Mae'r fflat wedi'i gosod bellach yn Band C ac sy'n golygu fod y dreth sydd i'w thalu wedi codi o £682 i £832. Mae talu £832 yn ddigon o dân ar fy nghroen i, ond i dalu hynny am gyngor sir a gwasanaeth heddlu sydd ddim yn defnyddio'r Gymraeg fel y dylen nhw, mae'r peth yn warthus.
Dwi'n credu fy mod i'n mynd i apelio am fandio'r fflat a cheisio cael gostyngiad yn y dreth. Bydd yn rhaid i fi ddechrau darllen y Daily mail.
Disgusted of Aberystwyth
Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.