
Rhaid dweud ei bod hi'n amlwg o'r darllediad nad darllen yr autocue oedd un o gryfderau Albert Owen. Roedd hi'n ymddangos ei fod yn mynd yn llawer rhy gyflym iddo ac roedd un gair yn llithro i mewn i'r llall. Roedd yn gwbl annealldwy ar brydiau ac yn lled annealladwyr y gweddill o'r amser. Efallai ei ddatganiad mwyaf syfrdanol oedd fod Llafur Newydd yn rhoi "mwy o gymoedd i bensiynwyr". A'r cwestiwn oedd yn codi yn fy meddwl i yw a fydd pensiynwyr Cwm Rheidol yn cael cwm arall iddynt eu hunain, ynte a fydd yn rhaid i bensiynwyr sydd â chwm yn barod wneud y tro gyda'r cwm sydd ganddyn nhw.
Diolch am ffonio, RO!