Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-21

Rhodri Morgan unwaith eto

Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth yn fy ngolwg i. Dwi'n gweld erbyn hyn fod Rhodri Morgan wedi ysgrifennu colofn yn Guardian am y peth. Dyma esiampl o'i sylwadau:
I'll try to use this result as much as I can. I'd like to parlay our success into rising exports, higher inward investment, an increase in tourism and a boom in numbers of overseas students flooding into Wales because it's seen as the place to be. And it's not just at rugby that we're excelling at the moment.
Mae angen i Rodri Morgan a phawb arall gael y peth mewn rhyw fath o berspectif. Nid ennill pencampwriaeth y byd yw hyn, nid hyd yn oed ennill Cwpan "y Byd" rygbi.

Mae angen hwb ar economi Cymru, ar ôl amcan 1 mae Ceredigion yn dlotach medden nhw wrtha' i. Beth am i Rodri Morgan dynnu ei fys mas a dechrau gwneud rhywbeth am hynny yn lle gobeithio fod 15 dyn yn chwarae rygbi yn mynd i newid pethau. Dyw'r dyn ddim yn dwp, ond mae'n rhaid ei fod e'n meddwl ein bod ni'n dwp os yw e'n credu yn gall ein twyllo ni fod bore heddiw yn well diwrnod oherwydd beth ddigwyddodd ddydd Sadwrn.

Dwi ddim ag obsesiwn gyda Rhodri Morgan eto, ond mae'n edrych fel petai hynny'n datblygu. Os oes gan rywun gyngor imi ar sut ymdopi â hyn i gyd byddwn yn reit falch.