Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-21

Cymru a Gwlad Belg

CG a dynnodd fy sylw i at erthygl yn y Western mail yn dathlu'r berthynas rhwng Cymru a Gwlad Belg. Fel hyn mae'r awdur yn crynhoi ei sylwadau:
...Wales and Belgium could one day bestride the world like a pair of colossuses, leading onlookers to exclaim "look, there go those two relatively small bilingual nations with a north-south divide and a curious penchant for producing an iconic cartoon of the likes of Tintin and Superted."
Rhaid mynd ati i ddathlu'r berthynas yn fwy aml. A dyna'r rheswm fy mod mor ddiamynedd wrth ddisgwyl am y wibdaith i Kortrijk a'r cyffiniau. Efallai ei bod o ddiddordeb i rywun fod Dinas Kortrijk wedi cychwyn cyhoeddi papur newydd ers dechrau'r flwyddyn a bod rhifyn mis Mawrth 2005 ar gael bellach ar ffurf ffeil PDF.

Gobeithio fod hyn yn profi nad ydw i wedi mwydro 'mhen yn llwyr gyda Rhodri Morgan!