Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-21

Rhodri Morgan a'r bws

Mae'r dyn 'na yn dal i godi fy ngwrychyn. Dyna lle mae e'n treulio'i amser yn trefnu bws o gwmpas Caerdydd i nodi buddugoliaeth y tîm rygbi drannoeth y gêm, ac mae wedi cymryd 5 mlynedd a mwy iddo feddwl am wella'r gwasanaeth iechyd! A dim ond ar drothwy etholiad cyffredinol, a hwnnw'n etholiad cyffredinol San Steffan, yr aeth yntau a'r Dr Brian Gibbons ati i wneud unrhyw beth.

A nawr mae blydi PrinceCharles wedi neidio mewn i'r whilber! Efallai y caiff aelodau o dîm rygbi Cymru ffurfio rhyw fath o guard of honour tu-fas i swyddfa gofrestru Windsor ar gyfer ei briodas â Chamilla - Duw a ŵyr bod angen ychydig o sglein ar honno!