Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-07

Penwythnos o hamdden a mwynhad... a gwaith eto

Os oedd nos Wener yn golygu ychydig waith, yna rhaid cyfaddef i ddydd Sadwrn fod yn hamdden pur. Yng nghefn fy meddwl wrth gwrs roedd yr erthygl ar gyfer y cylchgrawn Barn oedd i fod yn barod erbyn dydd Llun.

Treulio'r bore yn y Caban yng nghwmni WVD, DML, ac Elwyn. Aros am ychydig ar fy mhen fy hun cyn cael cwmni y cyn-gynghorydd GB. A chwedyn disgwyl am RO wrth iddo geisio cyrraedd i mewn o Benrhyn-coch heb gar. Fe lwyddodd a dyma benderfynu cael ffest a mynd i fwyty Gannets am ginio. A phwy ddaeth i mewn yn fuan ar ein hôl ni ond WVD, ac yna RAJ, MG, SJ a DC. Sôn am fod yn gymunedol!

Cefais gawl winwns Ffrengig i ddechrau, yna steak pie a chacen gaws i ddilyn. Yn anffodus does gen i ddim llun! Y cyfan yn flasus iawn, a'r croeso yn dwymgalon, fel arfer.

'Nôl wedyn i'r fflat i wneud ychydig waith a pharatoi y cyhoeddiadau ar gyfer y Sul. Ac am ryw 5 o'r gloch mas â fi i wneud llungopïau. Es i i Paperway fel arfer i wneud hynny a phwy wnes i gyfarfod ar y ffordd on RAJ a MG a dyma cael gwahoddiad i ymuno â hwy yn y Varsity am ddiod. Aros yno am oriau!

Wedyn 'nôl am y tŷ a gweld golau gydag ACD ac felly galw i mewn am sgwrs fach gyflym. Ar ôl gorffen y sgwrs roedd hi bron â bod yn 9 o'r gloch.

Diwrnod cyfan o siarad ac yfed a bwyta! Grêt!