Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-07

Mwy am y penwythnos... dydd Sul

Dydd Sul oedd y Pedwerydd Sul yn y Garawys, a elwir yn draddodiadol yn Sul y Fam neu Mothering Sunday yn Saesneg. Yn Eglwys S. Mair yr ydym yn cadw'r Sul drwy sicrhau fod holl deulu'r eglwys yn dod ynghyd i ddathlu. Y Parchg Andy Herrick oedd yn arwain y gwasanaeth yn y bore ac fe ddywedodd hanes datblygiad Sul y Fam a'r arfer o bobi Cacen Simnel. Wrth sôn am y gacen simnel fe wnaeth gyfeirio at y rysait ar gyfer eglwys: yr angen am bresenoldeb Gair Duw yn ysgrifenedig, Gair Duw bywiol (sef Iesu Grist wedi atgyfodi) a'r Ysbryd Glân. Ac er mwyn nodi'r diwrnod fe gafodd pawb gacen simnel fach i fynd adref gyda nhw. Yn y llun fe welwch chi Timothy a Calvin yn bwyta eu ucacennau simnel hwy cyn gadael yr eglwys - roedden nhw'n llawer yn rhy flasus i'w cadw. Fe es i â dwy adref ar gyfer DML ac RO - mae DML wedi cael ei un e, ond mae RO yn dal i ddisgwyl!