Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-03

Gwyliau er mwyn gweithio!

Mae diwedd y flwyddyn wyliau yn dod yn nes, ac felly rhaid ceisio lladd ambell i ddiwrnod fan hyn a fan acw. Felly heddiw i raddau, ond roedd yn rhaid cael amser i wneud beth roeddwn i wedi addo ei wneud neithiwr.

Neithiwr cafwyd cyfarfod o gell Gogledd Ceredigion o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg er mwyn rhoi mwy o drefn ar y cyfarfod cyhoeddus rydym yn ei drefnu yng Nghanolfan Merched y Wawr 15 Mawrth, er mwyn dechrau trafodaeth gyhoeddus ar Siarter Ceredigion 2005. Ac roeddwn i'n ffôl iawn wedi addo paratoi datganiadau i'r wasg am y peth.

Yn ogystal â hynny roeddwn i hefyd am roi rhyw olwg olaf dros y cwis dwi wedi'i baratoi ar gyfer Tal-y-bont nos Wener, 2005-03-04.