Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-25

Dathlu deugeinfed DJP

Wedi'r gwasanaeth yng Nghapel y Morfa fe es i am fwyty Shilam, ger gorsaf Aberstwyth i ddathlu deugeinfed pen blwydd DJP. Dr MWR oedd wedi trefnu ac roedd rhyw bedwar ar ddeg ohonon ni – DJP ei hun, RO, DML, DC, Dogfael, IBJ, RPL, AP, Dr JM, DD, Dr AF, SE, Dr MWR ac Elwyn. Yn ddiweddarach fe ymuno EJ AC gyda ni. Roedd hi'n noson hwyliog braf, wel o leia fe wnes i enjoio fy hunan. Mae lot o ansicrwydd a phwysau wedi bod yn y gwaith yn ddiweddar, ond neithiwr roeddwn i'n teimlo y gallen ni adael fy ngwallt lawr a bod yn fi unwaith eto. Gobeithio nad oedd hynny wedi bod yn rhy boenus ac annifyr i'm cyd-fwytawyr amyneddagr a hir ddioddefus.

Roeddwn i'n rhannu bwrdd gyda DJP, RO, DML, IBJ a DC. AC fe benderfynon ni i gyd i gael pryd unigol, yn hytrach na'r wledd yr oedd y lleill wedi dewis. Fe ges i siaslic cyw iar i ddechrau. Yn anffodus roedd yn edrych cystal fel imi ddechrau bwyta cyn tynnu llun ohono - dyma'r hyn oedd ar ôl wedi imi gofio.

Fel prif gwrs fe ges i sag panir (sef sbigoglys a chaws) gyda reis pilau madarch a Mumbai alw (tatw Mumbai). Dyma lun o'r sag panir.

Os oes diddordeb gan rywrai mewn coginio sag panir drostynt eu hunain dyma rysait syml yn esbonio sut mae gwneud. Mae lluniau gweddill y pryd a mwy o luniau o'r noson ar gael.

Wedi'r pryd dyma penderfynwyd mynd draw i far gwin Rummers cyn mynd am adref. Roedd y gwmniaeth mor gynnes fe nad oeddwn yn teimlo fel bod yn barti bŵydd a mynd am adref – y peth synhwyrol i'w wneud. Roeddem wedi bwriadu eistedd tu fas yn Rummers, ond roedd hi'n rhy oer a'r gwresogyddion heb eu cynnau. Felly mewn i'r bar â phawb lle'r oedd grŵp byw yn chwarae - Dafydd Saer oedd y canwr. Wnes i ddim aros yn hir, ond fe sylwais ar bedwar yn chwarae gêm gardiau o'r enw Uno. Fe wnaeth Dr MWR gael gair gyda nhw i ofyn beth yn gywir oedd hi, ac fe ddaeth i'r canlyniad taw perthynas i rymi oedd Uno. Doeddwn i erioed wedi clywed am UNO, ond mae gyda'r gêm garidau fwyaf poblogaidd yn y Taleithiau Unedig.