Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-16

Diolch Mr Gordon Brown... am ddim!



Cyllideb arall a dyma'r canghellor wedi anwybyddu unwaith eto anghenion dynion gwyn sengl yn eu 40au heb blant. Rhowch bopeth i bensiynwyr a theuluoedd a phlant, a gadwch ni'r bobol sengl i dalu am y cwbl! Bues i bron â rhegi, ond dwi'n sylweddoli ei bod hi'n rhaid imi fod yn gyfrifol, rhag ofn fod plant yn darllen. "Hardworking families", dyna'r unig beth ddywedodd Gordon Brown yn ei ddarllediad gwleidyddol, beth am "hardworking singles"?

'Nabod fy lwc i fe fydd y Torïaid 'nôl mewn grym pan fydda' i'n bensiynwr ac fe fyddan nhw yn mynd â phopeth oddi arnon ni unwaith eto.

A mae jyst gweld y Peter Hain 'na yn eistedd ar fainc flaen y Llywodraeth ac yn fodlon pleidleisio dros unrhyw fesur mae Llafur Newydd yn ei daflu at ein hawliau suful sylfaenol yn ddigon i'm gwneud i yn sâl!