Rhai sylwadau am fywyd a phethau eraill gan dderwydd o Aberystwyth, Ceredigion.
I'm a Celtic druid from Aberystwyth, Wales and my blog is entirely in Welsh. Thanks for visiting.

2005-03-07

Mwy am y penwythnos... ychwaneg am ddydd Sul

Nid dydd Sul cyffredin oedd hwn. Roedd hi'n Sul y Fam, ond roedd hefyd yn Sul pan roedd y gwasanaeth nos wedi'i neilltuo ar gyfer cyngerdd gyda Susan Williams a Manna yn canu.

Roeddwn i yn y coleg yr un pryd â Susan. Roedd hi'n berson llawn bywyd a brwdfrydedd a chariad at yr Arglwydd, ac mae'n dal i fod yr un peth dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Mae hi newydd ryddhau CD ar label Gwynfryn Cymunedol Cyf, yr un label â Meinir Gwilym fel y gwnaeth Susan frysio i f'atgoffa i. Canu gospel bywiog a rhai caneuon mwy myfyriol gawsom ni gan Susan. Yn ddiddorol iawn mae hi'n ddarllenydd lleyg fel finnau ond y mae hithau hefyd yn organydd a hynny mewn grŵp o eglwysi yn ardal Llanberis. Cafodd CD newydd Susan, Fel yr eryr, ei rhyddhau ddiwedd llynedd ac mae wedi gwerthu'n dda, er fe ddywedodd Susan taw efallai y peth mwyaf anodd oedd darllen adolygiad y rapiwr MC Saizmundo o'r CD yn Y Cymro.

Yn ogystal â Susan roedd y grŵp Manna yn perfformio nos Sul. Roeddwn i wedi ofni taw rhyw grŵp modern yn rapio fydden nhw, ond fel mae'n digwydd roedden nhw'n ffitio'n hawdd i mewn i'r traddodiad Cristnogol myfyriol gyda chymsgedd o acwstig a thrydan ynghyd â harmoneiddio lleisiol yn gweithio'n arbennig. Mae aelodau yn dod o Abersytwyth, Llanelli, Môn ac Alabama. Roedd eu cyfraniad hwy i'r noson yn un hyfryd.

Fe aeth y newyddion ar led eu bod nhw'n canu yn Eglwys y Santes Fair oherwydd roedd y lle yn weddol llawn a nifer go dda o bobol ifainc wedi dod ynghyd ar gyfer y cyngerdd. Ar ganol y cyngerdd fe siaradodd rheithor Aberystwyth, y Parchg Ganon Stuart Bell am beth oedd hanfodion Cristnogaeth, sef perthynas â Duw trwy ei fab atgyfodedig a byw Iesu Grist, perthynas sy'n newid popeth. Da iawn.